 Crynodeb:
Stori yw The Caves of Alienation am ddatgeliad sy’n ymddatod ynglŷn â chymeriad anodd ond difyr Caradock. Mae’r naratif amlochrog yn dilyn ei blentyndod yng Nghymru, wedi’i amddiffyn rhag (ac eto’n agos at) y tlodi yn y cymoedd, yr oedd ei deulu ei hun wedi helpu i’w greu, ei brofiad cyntaf o ryw, ei lwyddiant llenyddol yn Llundain a’i ymgiliad terfynol i Gymru. Ond y dull gafaelgar sydd i’r dweud sy’n rhoi ei athrylith i The Caves of Alienation. Fe’i dywedir o sawl safbwynt, rhai ohonynt yn gwrthdaro, ond pob un yn perthyn. Cyfeillion a gelynion, gwrthwynebwyr llenyddol, cariadon, beirniaid, mae’r ‘cofiant swyddogol’ a hyd yn oed rhaglenni dogfen teledu a radio’n brwydro gyda’i gilydd yn y naratif gyda’u darnau eu hunain (sydd weithiau’n ffug) o’r gwirionedd. Mae’r cyfan oll yn mynd ati i greu rhywbeth lliwgar a chynhyrfus i’w ddarllen, sy’n ddoniol a dwys am yn ail, ond byth yn troi oddi wrth ei bortread o Caradock a’i fyfyrdodau dyfnaf. Mae’r frawddeg tour de force yn un sy’n cael ei gorddefnyddio, ond anaml y bu ei ddefnyddio’n cael ei gyfiawnhau mor llawn.
Nodiadau bywgraffyddol:
Ganed Stuart Evans yn Abertawe ym 1934 ac fe’i maged yn Ystalyfera ym Morgannwg. Fel nofelydd y sefydlodd ei enw, ag wyth nofel hir a thechnegol gymhleth a dueddai’n fwy tuag at yr athronyddol nag sy’n arferol mewn ffuglen Seisnig. Maent yn cynnwys Meritocrats (1974), The Gardens of the Casino (1976), The Caves of Alienation (1977), a phum nofel a adnabyddir fel The Windmill Hill Sequence. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth hefyd, Imaginary Gardens with Real Toads (1972) a The Function of the Foal (1997). Bu farw ym 1994.
Rhagflas byr coming soon
Darllenwch
y rhagair cyfan i The Caves of Alienation YMA... Mwy o wybodaeth a sylwadau:

|