 Crynodeb:
Disgrifiad prydferth a phersonol o’r amser a dreuliwyd gan Brenda Chamberlain ar Ynys Roegaidd Ydra yn y 1960au cynnar yw A Rope of Vines – Journal from a Greek Island. Darlunnir y môr a’r harbwr, y mynydd a’r fynachlog, ei chymdogion a’i chyfeillion mewn modd cofiadwy; y rhain oedd y realiti y tu allan i’w hunan tra oddi mewn roedd gwrthdaro emosiwn a dyheadau’n brwydro sydd hefyd yn dod yn fywyn y gyfrol. Mae llawenydd a thrallod yn cael eu plethu’n fân yn y cofnod hwn: and harbour, mountain and monastery, her neighbours and friends are unforgettably pictured; these were the reality outside herself while within there was a conflict of emotion and warring desires which is also vividly brought to life. Joy and woe are woven fine in this record: hyfrydwch myrdd o brofiadau newydd yn tyrru’r synhwyrau, y dioddefaint yr ymddengys ohono gyda dealltwriaeth newydd am ei hun ac am y fodolaeth ddynol. Mae A Rope of Vines – Journal from a Greek Island yn gyflawniad hyglod o ran dwysedd a grym yr ysgrifennu a’r darluniau huawdl o’r ynys.
Nodiadau bywgraffyddol:
Ganed Brenda Chamberlain ym Mangor ym 1912. Yn 1931 aeth i hyfforddi fel arlunydd yn Ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain a phum mlynedd yn ddiweddarach, wedi priodi’r artist-grefftwr John Petts, symudodd gerllaw pentref Llanllechid, ger Bethesda yn Sir Gaernarfon. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithiodd gyda’i gŵr ar gynhyrchu’r Caseg Broadsheets. Ym 1947 aeth i fyw ar Ynys Enlli, lle’r arhosodd hyd 1961. Wedi chwe blynedd ar Ynys Roegaidd Ydra, dychwelodd i Fangor; yno, yn isel ei hysbryd a chyda phroblemau ariannol, y bu farw o orddos o dabledi cysgu ym 1971. Cyhoeddwyd A Rope of Vines ym 1965.
Rhagflas byr I have returned to the good mothers of Efpraxia while my friend Leonidas serves sentence for manslaughter of an English tourist in the port of Ydra.
I am putting my thoughts together, for here the mind can clear itself. The nuns ask only simple questions, I have freedom to come and go as I please, no games of pretence are being played as they are every day of the week on the waterfront, I can take a siesta in a juniper tree if I feel like it.
Darllenwch
y rhagair cyfan i A Rope of Vines YMA... Mwy o wybodaeth a sylwadau:

|