 "I can't think of a more wonderful collection of stories than Rhapsody by Dorothy Edwards. It's a card-carrying masterpiece Funny, creepy, and strangely beautiful." Dan Rhodes Crynodeb:
Mae’r deg stori Rhapsody, ynghyd â’r tair cynt na chasglwyd cyn hyn sydd wedi’u hychwanegu at y casgliad hwn, yn hollol nodedig mewn llais a synwyrusrwydd. Mae o leiaf tair o’r straeon Rhapsody – ‘A Country House’, ‘Days’, ac ‘A Garland of Earth, enigmatig, yn gampweithiau bychain. Ddim yn gamp rhy ffôl i’w chyflawni erbyn pedair ar hugain mlwydd oed. Mae’r oll ohonynt yn astudiaethau hynod reoledig o awydd wedi’i lyffetheirio, unigrwydd a pherthnasau anghyflawn a oedd yn datblygu i Edwards mewn byd nad oedd yn un y realydd o ddelweddaeth a symbolaeth a’i hiaith ei hun. Mae cerddoriaeth yn un o’r motifau. I Edwards, mae cerddoriaeth yn cynrychioli celfyddyd, ond hefyd mae posibilrwydd o nwyd rhywiol sydd fel arall yn mynd heb ei fynegi ond sydd ymhobman fel is-gerrynt pwerus.
Nodiadau bywgraffyddol:
Ganed Jeremy Brooks yn Southampton ym 1926. Fe’i addysgwyd yn Ysgol John Bright yn Llandudno, wedi dod yn ifaciwî i ogledd Cymru ym 1940. Ymrestrodd yn y Llynges a threuliodd amser yng Ngholeg y Fadlen, Rhydychen cyn gwasanaethu ym Môr y Canoldir. Wedi’r rhyfel astudiodd Gynllunio Llwyfan yn Ysgol Gelf Camberwell. Symudodd yn ôl i ogledd Cymru ym 1953 gyda’i wraig, yr arlunydd Eleanor Brooks, a llogi bwthyn ar ystâd Clough Williams Ellis yn Llanfrothen. Cawsant bedwar o blant. Er mwyn cynnal ei hun tra’i fod yn ysgrifennu ffuglen gweithiodd yn achlysurol fel gweinydd gwin yn y bwyty yng Ngwesty Portmeirion ac aeth ymlaen wedi hynny i ysgrifennu nofel, The Water Carnival (1957), sy'n dychanu'r pentref Eidalaidd. Cyhoeddwyd Jampot Smith ym 1960, Henry’s War ym 1962 a Smith as Hero ym 1964. Yn ddiweddarach cychwynnodd ar yrfa theatrig, oedd yn cynnwys cyfnod fel rheolwr llenyddol y Royal Shakespeare Company gyda Peter Hall o 1962 i 1969. Bu’n gyfrifol, ynghyd â Kitty Hunter-Blair, am nifer o addasiadau blaengar o ddramâu gan ddramodwyr o Rwsia gan gynnwys Maxim Gorky a Nikolai Gogol. Cafwyd derbyniad brwd iawn i addasiad o The Government Inspector, gyda Paul Scofield. Gweithiodd yn helaeth ar gyfer theatr, teledu a radio gan gynhyrchu sawl gwaith gwreiddiol ac addasiadau gan gynnwys (gydag Adrian Mitchell), fersiwn o A Child’s Christmas in Wales gan Dylan Thomas. Ysgrifennodd farddoniaeth, llyfrau plant a gweithiodd yn helaeth gyda Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug hefyd, gan gynhyrchu addasiad nodedig o Medea. Roedd yn enwog am helpu gyrfaoedd a datblygiad awduron ifanc ac roedd yn aelod sylfaen o Undeb Awduron Cymru. Ei waith diwethaf i gael ei gyhoeddi oedd casgliad o straeon byrion, o’r enw Doing the Voices (1986). Bu farw ym 1994.
Rhagflas byr Last summer, on the very first day I returned from Egypt for my summer vacation, I made a new and interesting acquaintance. I reached London at about three o’clock, and had to wait about until a six o’clock appointment with my firm, and because I was too tired to do anything else in the meantime, and feeling also a little depressed and lonely, I turned into a café and sat there drinking tea and reading a magazine.
Darllenwch
y rhagair cyfan i Rhapsody YMA... Mwy o wybodaeth a sylwadau:
"I can't think of a more wonderful collection of stories than Rhapsody by Dorothy Edwards. It's a card-carrying masterpiece Funny, creepy, and strangely beautiful." Dan Rhodes

|