Cyfweliad unigryw gydag Elaine Morgan
Bum munud mewn i’r cyfweliad, mae’n amlwg fod gan Elaine
Morgan ei hysbryd tanbaid o hyd. Mae ystumiau llydan gyda’i breichiau
a churo herfeiddiol ar y bwrdd tra’i bod hi’n siarad yn dangos
pa mor angerddol y mae hi am yr hyn sydd ganddi i’w ddweud, yn union
fel y mae wedi bod erioed. Mewn hen dy prydferth ynghanol Aberpennar,
mae’r peiriant ffacs sy’n eistedd ar gist ddroriau yn edrych
bron gymaint allan o’i le â’r Bafta ar ei phentan. Heriodd
ei llyfr mwyaf pwysig, Descent of Woman, theori esblygiad a chael pobl
i sylwi a gwrando. Ysgrifennodd ragair i un o’r llyfrau yng nghyfres
Library of Wales, The Dark Philosophers, ac ar hyn o bryd mae ganddi golofn
yn y Western Mail o dan yr enw oldies. Af i gwrdd â hi er mwyn ceisio
deall sut ar y ddaear mae’n cael yr amser i bopeth.
Ers eich llyfr, Descent of Woman, ydych chi’n meddwl bod
menywod wedi dod yn fwy cyfartal i ddynion?
Dwi’n credu bod menywod wedi dod yn fwy hyderus. Mae llawer o newidiadau
cymdeithasol wedi digwydd ers i fi ysgrifennu’r llyfr, a bydd menywod
wastad yn cael eu heffeithio gan y ffaith mai nhw yw’r rhai sy’n
cynhyrchu’r plant. Dwi ddim yn meddwl fod pethau wedi digwydd fel
yr oedd y ffeminyddion wedi eisiau. Mae’r ffordd yr ydym ni’n
defnyddio’r iaith Saesneg yn brawf nad yw’n gyfartal rhwng
y ddau ryw. Roedd adeg pan oedd pobl yn ceisio ymgynefino â hyn,
yn enwedig mewn gwyddoniaeth. Roedd gwyddonwyr yn ceisio osgoi defnyddio’r
gair “dyn” lle bynnag oedd yn bosibl, ac yn hytrach defnyddio
fe neu hi. Does neb yn esblygu ar eu pennau eu hunain.
Ydych chi’n meddwl petaech chi wedi cyflwyno’ch gwaith
mewn ffordd fwy niwtral o ran rhyw, y byddai wedi cael ei dderbyn yn fwy?
Dwi’n meddwl i mi barhau i siarad ynglyn â’r ddwy ochr,
ond gan ganolbwyntio ar yr ochr fenywaidd yn fwy. Roedd yn bolemig, roedd
yn corddi pobl. Roedd herio llawer o gysyniadau o fewn anthropoleg, a
doeddwn i ddim yn gymwys i feirniadu. Doedd gen i ddim cefndir gwyddonol.
Fe wnes i feddwl am gael cymwysterau, ond dywedwyd wrthyf unwaith “nad
oedd angen” i fi. Mae’r syniad o esblygiad yn digwydd er budd
dynion yn ogystal â menywod bellach wedi’i dderbyn 100%.
Ydych chi’n meddwl i’ch llyfr helpu i wneud menywod
yn fwy cyfartal â dynion?
Dwi’n meddwl y byddai hwn wedi digwydd p’un a fyddai fy llyfr
i wedi’i gyhoeddi ai peidio, ond efallai ddim mor gyflym. Mae’r
un sefyllfa’n wir am Ddarwiniaeth. Helpodd fy llyfr gyflymu’r
cyfan am iddo godi llawer o bwyntiau pwysig a’i fod wedi’i
ysgrifennu mewn iaith hygyrch. Roedd her ynddo, angerdd ynddo hefyd. Gwerthodd
yn gyflym ar draws y byd. Do’n i ddim yn disgwyl hynny! Pe bai wedi
bod mewn cylchgrawn, fyddai e ddim wedi gwneud hanner cystal.
Oedd hi’n anoddach i sefydlu’ch hunan fel awdur a
barchwyd gan eich bod yn dod o gefndir tlotach?
Na, achos fy ngyrfa gyntaf oedd ysgrifennu ar gyfer teledu. Roedd cael
gyrfa yn gwneud hynny ar yr adeg honno yn anhygoel o anarferol, roedd
yn alwedigaeth newydd. Doedd dim rhaid i chi boeni am eich rhyw na’ch
tarddiad cymdeithasol os oeddech chi’n ysgrifennu ar gyfer y teledu.
A wnaeth eich magwraeth effeithio ar eich arddull o ysgrifennu?
Fe wnaeth helpu llawer iawn wrth ysgrifennu ar gyfer y teledu, achos ’mod
i’n ysgrifennu am bobl ddosbarth gweithiol ac y medru gwneud y dialog
yn naturiol. Treuliais dair blynedd gyda’r sefydliadau addysgol
i weithwyr, yn teithio o gwmpas i bentrefi gwahanol i roi areithiau am
gymdeithaseg, gwleidyddiaeth, pethau fel ’na. Gallwch ddweud os
yw pobl yn deall yr hyn rydych chi’n siarad yn ei gylch neu beidio
wrth yr olwg ar eu hwynebau. Am ei bod hi’n adeg rhyfel, weithiau
roedd yn rhaid i fi seiclo! Roedd llawer ohonyn nhw yn weithwyr fferm
oedd am wybod beth oedd yn digwydd yn y byd o’u cwmpas. Roedd yn
rhaid i chi ddefnyddio termau yr oedden nhw’n gyfforddus â
hwy, cychwyn trafodaeth, a chael pobl i siarad. Ro’n i’n dwlu
ar y gwaith! Roedd gwneud hynny wedi helpu go iawn gyda’r ysgrifennu
ar gyfer y teledu, dwi’n meddwl.
Oes yn well gennych chi ysgrifennu sgriptiau, neu bethau sy’n
herio safbwyntiau pobl?
Ro’n i wir yn mwynhau ysgrifennu’r ddau beth! Mae anghenion
y farchnad ar gyfer teledu’n newid yn gyson, felly ar ôl deng
mlynedd ar hugain doedd fy ngwaith ddim yn ffitio mewn, roedd angen i
fi newid fy arddull. Fe ddaliais fy nhir gyda The Aquatic Ape, dwi’n
meddwl.
A oedd hi’n anodd canfod cydbwysedd rhwng edrych ar ôl
eich plant ac ysgrifennu?
Oedd. Wrth feddwl amdano nawr, sut ar wyneb daear oeddwn i’n ei
wneud? (chwerthin) Mae’n siwr fod gen i fwy o egni. Wnes i fyth
ddatblygu i ddefnyddio teipiadur, roeddwn i’n defnyddio pen a phapur
bob tro a byddai ’ngwr i’n ei deipio ar fy nghyfer.
Pryd wnaethoch chi benderfynu eich bod chi am gychwyn ysgrifennu?
Penderfynais pan oeddwn i’n eithaf ifanc fy mod i am ddechrau ysgrifennu.
Curodd Rhydychen hynny allan ohonof i am o leiaf ddeng mlynedd. Pan ydych
chi wedi treulio gymaint o amser yn beirniadu gwaith rhai o awduron gorau
a welodd y byd erioed, wrth ddarllen eich gwaith eich hun, rydych chi’n
meddwl “Diwedd, ma’ hwn yn ofnadwy!” Gwnaeth helpu i
fireinio ’ngwaith dwi’n meddwl, ei wneud yn llawer gwell.
Sut aethoch chi o fyw mewn cartref diymhongar yng Nghymru i astudio
yn Rhydychen?
Enillais ysgoloriaeth. Ro’n i’n dda iawn yn yr ysgol, ac roedd
yr ysgol am i mi fynd. ’Doedd neb erioed wedi mynd i Rydychen o’n
hysgol ni. Roedd gen i fy amheuon am fynd i brifysgol yno – roeddwn
i o dan yr argraff y byddai’n posh iawn ac unig. Roedd yn hollol
i’r gwrthwyneb! Er hyn roedd yr holl fechgyn o gefndiroedd llai
breintiedig yn astudio yno yn ei gasáu. Roedd gan ysgolion bonedd
i fechgyn ethos gwahanol, dwi’n meddwl. Rhydychen oedd y lle wnaeth
ysbrydoli fy niddordeb mewn Gwleidyddiaeth. Gartref, ’doedd fy nghefndir
ddim yn wleidyddol o gwbl. Yng Nghymru, roedd gwleidyddiaeth yn cael ei
dra-arglwyddiaethu gan undeb y Glowyr. ’Doedd undebau eraill ddim
yn weithredol a ’doedd fy nhad â dim diddordeb mewn gwleidyddiaeth.
Pan symudais yn ôl i Gymru ymunais â’r blaid lafur leol.
Oedd hi’n anoddach i fynegi’ch barn ar wleidyddiaeth
mewn cyfarfodydd gwleidyddol oherwydd eich bod yn fenyw?
Roedd yn anodd iawn mynegi barn ynglyn â gwleidyddiaeth os oeddech
chi’n fenyw. Roedd areithiau yn cael eu cynnal gan ddynion yn llwyr.
Gwneud y te roedd merched.
Yn y dyddiau hynny, ’doedd Rhyddid Menywod heb gychwyn. Pan ddes
i’n gadeiryddes y clwb llafur, gwahoddais fenyw i areithio oedd
ag agwedd suffragette tuag at hawliau merched. Yn y flwyddyn olaf, roedd
cynnig i fenywod allu ymuno â’r Undeb yn Rhydychen ar droed.
Hen hanes oedd y Suffragette; doeddwn i ddim yn teimlo ein bod yn cael
ein gormesu.
Ydych chi’n edifar am nad aethoch chi mewn i’r senedd
fel y cynllunioch chi’n wreiddiol?
Awgrymwyd i fi pan oeddwn i’n iau y dylwn ymuno â’r
senedd. Yn y dyddiau hynny roedd yn rhaid i chi ddewis. Hyd yn oed i fod
yn athro, roedd yn rhaid i chi ddewis rhwng gyrfa fel yna neu deulu. Byddai
wedi bod yn hyfryd mynd i’r senedd, ond doedd dim un ffordd gorfforol
y medrwn wneud y ddau. Pe bai wedi bod gennyf arian, gallwn o bosib’
fod wedi ymdopi gyda gofal dydd.
Pe baech chi heb ddechrau teulu, a fyddech chi wedi mynd mewn
i wleidyddiaeth?
Pe na bai gen i blant, mi fyddwn wedi ymuno â’r Senedd yn
bendant. Ar y pryd roedd yn rhaid i fi ddewis rhwng gyrfa Seneddol neu
blant, ac roedd hi’n amlwg i fi pa ddewis i’w wneud. Roedd
bod yn fam yn arfer bod yn swydd llawn amser, er mae pethau’n llawer
haws nawr gyda datblygiadau mewn technoleg. Mae pethau fel peiriannau
golchi, sugnwyr llwch, prydau parod a pheiriannau golchi llestri yn gwneud
pethau’n llai caled.
Pe bawn i wedi dewis mynd i’r Senedd, dydw i ddim yn meddwl y byddwn
wedi cyflawni mwy, a dwi’n meddwl y byddwn wedi teimlo colled peidio
â chael plant yn eithaf difrifol! Efallai petawn wedi cael fy ngeni
hanner can mlynedd yn ddiweddarach na phan ges i fy ngeni y byddwn wedi
medru gwneud y ddau beth. Pe bawn i wedi byw bywyd fy mam, fyddwn i ddim
hyd yn oed wedi cael yr amser i ysgrifennu!
Ydych chi’n dal i fod yn angerddol dros wleidyddiaeth?
Yn gyfan gwbl. Rwy’n drist ynglyn â phopeth sydd wedi digwydd
i Lafur. Mae proffesiynoldeb ennill pleidleisiau wedi mynd; mae polisïau
pawb mor garbwl maen’ nhw bron yr un peth â’i gilydd.
Ydych chi’n credu bod llenyddiaeth o Gymru yn ymddangos
mor amlwg ag y dylai yn y farchnad iaith Saesneg?
Dwi’n credu bod arddull y nofel yn penderfynu pa mor dda mae llyfr
yn gwneud. Dwi’n meddwl bod agweddau pobl tuag at nofelau yn newid
gyda digwyddiadau cyhoeddus a hanes. Pan wnes i gychwyn gyntaf, roedd
yr ardal yma’n hwyliadwy o hyd oherwydd cloddio ac undebaeth, roedd
hanes yn dod oddi yma. Fodd bynnag, yn hwyrach, symudodd hyn i gyd a daeth
Gogledd Iwerddon o dan y chwyddwydr. Gwnaeth y trais y lle’n fan
poeth yn wleidyddol, daeth yn haws i’w werthu. Newidiodd cysyniadau
ac ethos y cymoedd, dyw pobl ddim fel petaen nhw’n becso rhagor.
Efallai y daw rhywbeth a fydd yn tanio diddordeb pobl eto, ond mae ysgrifennu
ynghylch Cymru yn anodd ac wedi bod felly erioed.
Yn y cychwyn, pan nad oedd fawr neb yn ysgrifennu amdani, roedd yn ddadlennol.
Doedd neb wedi meddwl amdani o’r blaen, roedd yn rhaid i chi fod
yn awdur da i ysgrifennu amdani ac ymgysylltu â’r darllenydd.
Mae wedi bod yn bosibl i ysgrifennu am Lundain erioed, mae bron i bob
un o’r cyhoeddwyr yn seiliedig yno!
Ydych chi’n meddwl bod y gyfres Library of Wales am helpu
pobl Cymru i ymgysylltu â’u treftadaeth?
Fe hoffwn i feddwl hynny wir. Dylai pobl sy’n darllen yn barod ddarllen
y rhain ac eisiau darllen mwy. Roedd llawer o awduron da yn cael eu hanghofio’n
llawer rhy fuan. Mae’n anodd cadw llyfrau mewn print pan fo gymaint
o rai newydd yn cael eu cyhoeddi, heb sôn am yr hen rai. Daeth cyfres
Library of Wales allan ac roedd pobl yn siarad – roedden nhw wedi’u
synnu â pha mor dda oedd y gyfres.
Beth ydych chi’n meddwl o The Dark Philosophers?
Dwi’n meddwl ei fod yn hynod dda. Buaswn i wedi hoffi gweld mwy
o’i ddeunydd doniol. Dylai cyfres Library of Wales gael detholiad
o’i ysgrifennu doniol. Dydw i ddim yn gwybod sut, ond mynegodd y
cymeriadau o’r gymdeithas honno mor dda.
Mae ei ysgrifennu mor wrywaidd – mynegodd gyfuniad o undeb ac uchelgais.
Ro’n i wedi dwlu ar y ffordd y mae un neu ddau o bobl yn ei straeon
sy’n wallgo’ am syniadau, sydd â chydwybod gymdeithasol.
Maent bron yn ddieithriad wedi’u hamgylchynu gyda thwpsod, a fyddai
fel arfer yn arwain at ddirmyg a rhaniad, ond nid yw byth yn gwneud gyda’i
straeon yntau. ’Dyw’r cymeriadau mae’n eu castio fel
“dihirod”, byth felly oherwydd eu hamgylchedd, maent yn ddrwg
o’r tu mewn bob tro. Mae ei straeon yn gryf iawn ac yn llawn tosturi
dro ar ôl tro. Mae’n rhyfedd fy mod i’n ei hoffi achos
nid yw’n dda ar y menywod…
|